Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care Committee
|
|
Mark Drakeford AC AM Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Minister for Health and Social Services |
|
11 Hydref 2013 |
Annwyl Mark,
Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013-14
Diolch i chi, Ddirprwy Weinidog a'ch swyddogion, am fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 9 Hydref i drafod gofal heb ei drefnu a bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013-14.
Yn ystod y trafodaethau, gwnaethoch gytuno i:
- ddarparu eglurhad o'r trefniadau i ddarparu brechiadau ffliw i blant drwy gyfrwng meddygon teulu neu'r ysgol, ac oedrannau perthnasol y plant a fydd yn cael y brechiadau hyn;
- darparu linc i'r adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad meddygon teulu yn erbyn y Fframwaith Canlyniadau Ansawdd perthnasol;
- darparu rhagor o wybodaeth am y polisi o gynnig triniaeth ddewisol y tu allan i GIG Cymru os nad oes gan y gwasanaeth y gallu i ddarparu triniaeth oherwydd pwysau yn gysylltiedig â'r gaeaf; ac
- ystyried ymgymryd â darn o waith i asesu'r effaith a gaiff achosion o oedi ym maes gofal dewisol ar ofal heb ei drefnu yng Nghymru.
Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai'n darparu manylion i'r Pwyllgor ynghylch y prosiectau gofal integredig sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru.
Yn ogystal â'r pwyntiau uchod, byddai'r Pwyllgor hefyd yn croesawu rhagor o wybodaeth am:
- y modd yr ystyrir sicrhau y gall y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, ac nid ysbytai’n unig, ymdopi mewn cyfnodau o alw mawr dros gyfnod y gaeaf;
- y sail resymegol a fydd yn cael ei mabwysiadu i ddosbarthu'r £150 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14, fel y cyhoeddwyd ar 8 Hydref 2013 ac y trafodwyd yn y pwyllgor ar 9 Hydref.
Byddem yn falch iawn pe baech yn anfon y wybodaeth hon atom erbyn dydd Gwener 1 Tachwedd os yw hynny'n bosibl.
O ystyried y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor wedi cytuno i ddychwelyd at y pwnc hwn yng ngwanwyn/haf 2014. Diben y sesiwn ddilynol hon fydd adolygu'r cynnydd a wnaed yn ystod gaeaf 2013/14 a thrafod canfyddiadau ymchwiliad arfaethedig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofal heb ei drefnu a rôl gofal sylfaenol lleol. Gan ddibynnu ar ganlyniadau'r sesiwn ddilynol hon, bydd y Pwyllgor yn ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad ehangach ynghylch gofal heb ei drefnu.
Yn gywir,
David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol